Rhagfyr 2015
Galwad am wybodaeth – Cynigion cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-17
Mae pwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn galw am wybodaeth i gynorthwyo gyda’r gwaith o graffu ar Gynigion Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-17, a gyhoeddwyd ar 8 Rhagfyr 2015. Mae gennym ddiddordeb mewn ymchwilio i’r disgwyliadau o ran cyllideb 2016-17, gan gynnwys parodrwydd ariannol ar gyfer blwyddyn 2016-17 ac effaith cyllideb 2015-16.
Mae’r Pwyllgor Cyllid yn edrych ar gyllideb Llywodraeth Cymru o safbwynt strategol a chyffredinol. Rydym hefyd yn cydweithio â phwyllgorau eraill y Cynulliad i sicrhau y caiff cynigion ar gyfer portffolios Gweinidogol penodol eu hystyried yn fanwl. Bydd y pwyllgorau yn cynnal sesiynau i ganolbwyntio ar dystiolaeth gan y Gweinidogion perthnasol er mwyn edrych yn fanwl ar yr agweddau ar y gyllideb sydd o fewn eu cylchoedd gwaith hwy, ac wedyn yn cyflwyno adroddiad i’r Pwyllgor Cyllid, gan amlinellu unrhyw bryderon sydd ganddynt. Gellir cael manylion pellach am Bwyllgorau'r Cynulliad a phroses y gyllideb yn Atodiad 1.
Yn y papur hwn, nodir cwestiynau penodol yn Atodiad 2. Gallwch ateb unrhyw un neu bob un o’r cwestiynau, neu gallwch roi gwybod i ni am eich pryderon a’ch disgwyliadau cyffredinol o ran y gyllideb ddrafft.
Datgelu gwybodaeth
Mae polisi'r Cynulliad ynghylch datgelu gwybodaeth i'w weld yma. Cofiwch ystyried y manylion hyn yn ofalus cyn cyflwyno gwybodaeth i'r Pwyllgor. Neu, gellir gwneud cais am gopi caled o'r polisi hwn drwy gysylltu â'r Clerc, Bethan Davies (0300 200 6372 seneddcyllid@cynulliad.cymru).
Darparu gwybodaeth i'r Pwyllgor
Gwahoddir pawb sydd â diddordeb i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i Glerc y Pwyllgor Cyllid, i gyrraedd erbyn 7 Ionawr 2016. Os hoffech gyfrannu ond eich bod yn pryderu na fyddwch yn gallu cyflwyno eich tystiolaeth erbyn y dyddiad cau, cysylltwch â Chlerc y Pwyllgor ar 0300 200 6372.
Yn gywir
Jocelyn Davies
Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid
Croesewir gohebiaeth yn Gymraeg neu Saesneg.
We welcome correspondence in Welsh or
English.
Atodiad 1 - Gwybodaeth gefndir
Pwy ydyn ni?
Mae’r Pwyllgor Cyllid yn un o bwyllgorau trawsbleidiol Cynulliad Cenedlaethol Cymru sy’n cynnwys Aelodau o bob un o’r pedair plaid wleidyddol a gynrychiolir yn y Cynulliad.
Nid yw’r Pwyllgor yn rhan o Lywodraeth Cymru. Yn hytrach, mae'r Pwyllgor yn gyfrifol am lunio adroddiad ar gynigion a gaiff eu gosod gerbron y Cynulliad gan Weinidogion Cymru sy'n ymwneud â defnyddio adnoddau.
Pa Bwyllgorau eraill sy’n craffu ar y gyllideb?
Y Pwyllgorau eraill sy’n craffu ar y gyllideb yw:
- Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
- Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol
- Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd
- Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Beth yw cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru?
Rhaid i gynigion y gyllideb ddrafft gynnwys manylion ynghylch faint o adnoddau y mae Llywodraeth Cymru yn cynnig eu defnyddio yn ystod y flwyddyn ariannol ddilynol a ffigurau dangosol ar gyfer y ddwy flwyddyn ariannol ar ôl hynny. Yn fwy penodol, dylai amlinellu gwybodaeth ynghylch:
- Yr adnoddau a gaiff eu defnyddio gan Lywodraeth Cymru, Comisiwn y Cynulliad, yr Archwilydd Cyffredinol ac Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.
- Incwm sydd i gael ei gadw gan y sefydliadau hynny (yn hytrach na chael ei ildio i Gronfa Gyfunol Cymru).
- Yr arian parod sydd i’w dynnu o Gronfa Gyfunol Cymru gan y sefydliadau hynny.
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi darparu dogfen naratif sy’n rhoi eglurhad pellach o’r dyraniadau manwl i adrannau’r Llywodraeth, yn ogystal â chronfeydd wrth gefn a dyraniadau cyffredinol eraill.
Beth yw dyraniadau'r gyllideb ddrafft ar gyfer 2016-17?
Gellir llwytho Cyllideb Ddrafft 2016-17 Llywodraeth Cymru, a'r dogfennau esboniadol yma:
http://gov.wales/funding/budget/draft-budget-2016-17/?lang=cy
Gellir gweld adroddiad cynnydd diweddaraf Llywodraeth Cymru ar y Rhaglen Lywodraethu yma:
http://gov.wales/about/programmeforgov/?lang=cy
Cwestiynau'r ymgynghoriad
1. Beth, yn eich barn chi, fu effaith cyllideb 2015-16 Llywodraeth Cymru?
2. Gan edrych ar ddyraniadau cyllideb ddrafft 2016-17, a oes gennych unrhyw bryderon o safbwynt strategol a chyffredinol, neu ynglŷn ag unrhyw feysydd penodol?
3. Pa ddisgwyliadau sydd gennych o gynigion cyllideb ddrafft 2016-17? Pa mor barod yn ariannol yw’ch sefydliad ar gyfer blwyddyn ariannol 2016-17, a pha mor gadarn yw’ch gallu i gynllunio ar gyfer y blynyddoedd sydd i ddod?
4. Hoffai'r Pwyllgor ganolbwyntio ar nifer o feysydd penodol wrth graffu ar y gyllideb. A oes gennych unrhyw sylwadau penodol o ran y meysydd a nodir isod?
- Paratoi ar gyfer Bil Cymru
- Trefniadau ariannol byrddau iechyd lleol
- Dull gweithredu o ran gwariant ataliol, a sut y cynrychiolir hwn wrth ddyrannu adnoddau (Gwariant ataliol = gwariant sy'n canolbwyntio ar atal problemau a lliniaru'r galw am wasanaethau yn y dyfodol, drwy ymyrryd yn gynnar).
- Effaith rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru ac a oes digon o adnoddau ar gyfer ei rhoi ar waith.
- Craffu ar y Gymraeg, cydraddoldeb a chynaliadwyedd.